Llanbedrog.com
Ffederaleiddio - Amserlen
13eg Rhagfyr 2007 - Y Cyngor i gymeradwyo ac awdurdodi cyfarfodydd ymgynghori statudol ym mhob un o'r ysgolion a enwir ar Restr A, yn cynnwys Ysgol Llanbedrog.
Ionawr hyd at Mawrth 2008 - Cyfarfod Ymgynghori Statudol ym mhob ysgol gyda'r llywodraethwyr, rhieni a'r staff yn trafod yr hyn sydd yn y cynllun ar gyfer eu hysgol nhw. Unig gyfle'r ysgol i newid barn y swyddogion. 33 cyfarfod mewn 12 wythnos (60 dydd gwaith = llai na 2 ddiwrnod i benderfynu tynged pob ysgol).
Mehefin 2008 - Erbyn hyn, mae'r swyddogion i fod wedi dadansoddi'r holl ymatebion gan bob ysgol a ffurfio rhestr terfynol o ysgolion i'w cau ar gyfer y Pwyllgor Craffu.
Gorffennaf 2008 - Cyngor llawn i gymeradwyo'r penderfyniad.
Medi 2008 - Swyddogion i gyhoeddi Rhybuddion Statudol o fwriad i gau'r ysgolion ar y rhestr. Caniatau cyfnod o 2 fis ar gyfer gwrthwynebiadau.
Rhagfyr 2008 - Cyngor i ddanfon yr holl bapurau (achos y Cyngor + gwrthwynebiadau) at Weinidog Addysg y Cynulliad. Mae gyda hi 3 mis i benderfynu ar apêl - ond yn ymarferol nid oes staff i drin mwy na 2 neu 3 apel ar y tro (nid 20+).
Mawrth 2009 - Byddai'n rhaid i Weinidog Addysg y Cynulliad benderfynu ar apêl gan fod yn rhaid rhoi rhybudd o dymor llawn i rieni ysgolion sy'n cau i gael hyd i ysgol arall ar gyfer eu plant. Felly rhaid cyhoeddi fod unrhyw ysgol yn cau erbyn Pasg 2009.
Gorffennaf 2009 (diwedd Tymor yr Haf) - Bydd Ysgol Abersoch yn cau am byth. Bydd Ysgol Llanbedrog yn cau ac yn colli ei statws fel ysgol annibynnol cyn ail agor ym mis Medi 2009 fel un o safleoedd ysgol ffederal fydd yn cynnwys Ysgolion Foel Gron a Sarn Bach. Bydd pennaeth safle ar y 3 safle ac un prif athro fydd yn treilio ei amser yn symyd o safle i safle.
Pentref heb ysgol, pentref heb galon